YesCymru and AUOBCymru are proud to announce that the next Welsh March for Independence will take place in Barry at 1pm on Saturday 26 April 2025.
Welsh March for Independence: when and where
Barry played a pivotal role in the Cymru Fydd (Young Wales) movement of the 1890s, which championed Welsh home rule and self-governance. The first Welsh branch of Cymru Fydd was formed in Bethel Chapel, Cadoxton, in 1892, and Cymru Fydd members won seats in Barry’s first Council Elections in 1894.
Cymru Fydd emerged as a response to the growing desire among the Welsh people for self-governance. The movement sought to empower communities by advocating for legislative powers that would allow them to make decisions on key issues such as education, trade, and infrastructure.
Mark Hooper, a local councillor and one of the organisers of the March for Independence in Barry on 26 April, said:
The historical significance of Cymru Fydd in the 1890s serves as a powerful reminder of our collective voice. As we face contemporary challenges, the thirst for self-determination remains as strong as ever. It’s crucial that we honour our past while advocating for a future that reflects our values and priorities.
Since 2019, thousands have participated in independence marches in towns and cities across Wales, including Caernarfon, Merthyr, Wrexham, Bangor, Swansea, Carmarthen, and Cardiff. The march in Cardiff in 2022, for example, drew over 10,000 participants, marking one of the largest gatherings for the cause to date. These events have demonstrated the growing support for an independent Wales, uniting communities from all corners of the country in a shared vision of self-determination.
The March for Independence in Barry is jointly organised by YesCymru and AUOBCymru, two volunteer-led grassroots organisations committed to achieving independence for Wales. They invite supporters from across the country to join the event and be part of the growing movement for change.
Phyl Griffiths, YesCymru Chair said:
YesCymru is dedicated to the goal of an independent Wales that embraces and celebrates the full diversity of everyone who has made Wales their home. Join us in Barry on April 26, 2025, to make your voice heard and stand with thousands of others who believe in a brighter, independent future for Wales.
Further details, including the route and programme for the day, will be announced in the coming weeks. Supporters can sign up for updates or to volunteer via the YesCymru website – www.yes.cymru – and are urged to follow us on social media – @yescymru and @auobcymru – for the latest info.
Welsh language version
Mae YesCymru ac AUOBCymru yn falch o gyhoeddi y bydd yr Orymdaith nesaf dros Annibyniaeth yn digwydd yn y Barri am 1pm ddydd Sadwrn, Ebrill 26, 2025.
Roedd y Barri yn ganolog ym mudiad Cymru Fydd yn yr 1890au, mudiad a oedd yn hyrwyddo ymreolaeth a hunanlywodraeth i Gymru. Ffurfiwyd cangen gyntaf Cymru Fydd yng Nghymru yng Nghapel Bethel, Tregatwg, ym 1892, ac enillodd aelodau Cymru Fydd seddi yn Etholiadau Cyngor cyntaf y Barri ym 1894.
Daeth Cymru Fydd i’r amlwg yn sgil yr awydd cynyddol ymhlith y Cymry am hunanlywodraeth. Ceisiodd y mudiad rymuso cymunedau drwy alw am rymoedd deddfwriaethol a fyddai’n caniatáu iddynt wneud penderfyniadau ar faterion allweddol fel addysg, masnachu, a seilwaith. Roedd yr angerdd dros ymreolaeth yn gryf ymhlith y boblogaeth, ac roedd y Barri ar flaen y gad yn y cyfnod trawsnewidiol hwn.
Dywedodd un o drefnwyr yr orymdaith, Mark Hooper, sy’n aelod o YesCymru ac yn gynghorydd lleol:
Mae arwyddocâd hanesyddol Cymru Fydd yn y 1890au yn atgof pwerus o’n llais torfol. Wrth inni wynebu heriau cyfoes, mae’r syched am hunan-benderfyniad yn parhau mor gryf ag erioed. Mae’n hanfodol ein bod yn anrhydeddu ein gorffennol tra’n eiriol dros ddyfodol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd a’n blaenoriaethau.
Ers 2019, mae miloedd wedi bod yn rhan o orymdeithiau dros annibyniaeth mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, gan gynnwys Caernarfon, Merthyr, Wrecsam, Bangor, Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd. Denodd yr orymdaith yng Nghaerdydd yn 2022, er enghraifft, dros 10,000 o gyfranogwyr, y fwyaf ar gyfer yr achos hyd yma. Mae’r gorymdeithiau wedi dangos y gefnogaeth gynyddol i Gymru annibynnol, gan uno cymunedau o bob cwr o’r wlad sy’n rhannu’r un weledigaeth am hunan-benderfyniad.
Mae’r Orymdaith dros Annibyniaeth yn y Barri yn cael ei threfnu ar y cyd gan YesCymru ac AUOBCymru, dau fudiad llawr gwlad a arweinir gan wirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i sicrhau annibyniaeth i Gymru. Maent yn gwahodd cefnogwyr o bob rhan o’r wlad i ymuno â’r digwyddiad a bod yn rhan o’r symudiad cynyddol dros newid.
Dywedodd Phyl Griffiths, Cadeirydd YesCymru:
Mae YesCymru wedi ymrwymo i’r nod o Gymru annibynnol, Cymru sy’n dathlu yr amrywiaeth o bobl sydd wedi ymgartrefu yma. Ymunwch â ni yn y Barri ar Ebrill 26, 2025, i leisio’ch barn a sefyll gyda miloedd o bobl eraill sy’n credu mewn dyfodol mwy disglair ac annibynnol i Gymru.
Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys y llwybr a rhaglen y diwrnod, yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Gall cefnogwyr gofrestru am ddiweddariadau neu i wirfoddoli drwy wefan YesCymru – www.yes.cymru – a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol – @yescymru ac @auobcymru – am y diweddaraf.
Featured image supplied