While criticising a new report by a Senedd committee for not holding Wales‘ government to account for weaknesses in their plans for the future of Welsh language education, Cymdeithas yr Iaith have announced that they will hold a rally on the steps of the Senedd to support the “80% of children who will leave school without the ability to speak Welsh confidently”.
Welsh language rally
The Senedd’s Children, Young People and Education Committee published its first report on the Welsh Language and Education Bill today (Friday, 13 December). The intention of the Bill is to provide a statutory basis for the Government’s target of one million Welsh speakers by 2050 and ensure that all children leave school as confident Welsh speakers.
However, according to Cymdeithas yr Iaith, the Bill is not strong enough to succeed in its aims, and they have criticised the Committee’s report for not addressing those weaknesses.
In an open letter to the Committee, Toni Schiavone, Chair of the Cymdeithas yr Iaith’s Education Group, explains:
Currently, 80% of our children and young people leave school without being able to speak Welsh confidently, as they have not received a Welsh-medium education. Our concern is that this situation will persist even after the Bill has been passed by our Senedd, as it is not nearly strong enough at the moment to bring about the radical change needed to give the Welsh language to all our children.
The members of the Committee have been invited to the upcoming ‘Solidarity with the 80%: Welsh Language Education for All’ rally, which will take place outside the Senedd in Cardiff Bay on 15 February 2025. Mabli Siriol from Cymdeithas yr Iaith, the poet and writer Hammad Rind and the Vice-President of the Welsh Language at Cardiff University Students’ Union, Catrin Edith, will be among the speakers.
Toni Schiavone added:
As our politicians are not willing to stand with the 80% of children and young people who are deprived of the Welsh language, we will hold a rally outside the Senedd on 15 February to show that the people of Wales stand with them.
If the Welsh language really belongs to everyone, you will use your power as elected members of our Senedd in the coming months to influence it in order to realize the aspirations of the people of Wales and the rights of our children to speak our national language, and introduce amendments that will significantly change the once in a generation legislation so that it is truly transformative.
In a recent opinion poll by YouGov, commissioned by the Cymdeithas yr Iaith, 59% of people questioned believed that schools should aim to educate all pupils to become confident Welsh speakers, with 29% disagreeing and 12% answering ‘don’t know’. Excluding those who answered ‘don’t know’, the percentage in favour rose to 67%.
Welsh language version
Wrth feirniadu adroddiad newydd gan bwyllgor Seneddol am beidio dwyn y Llywodraeth i gyfrif am wendidau yn eu cynlluniau ar gyfer dyfodol addysg Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal rali ar risiau’r Senedd i gefnogi’r “80% o’n plant sy’n gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus”.
Cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ei adroddiad cyntaf ar Fil y Gymraeg ac Addysg heddiw (dydd Gwener, 13 Rhagfyr). Bwriad y Bil yw darparu sail statudol ar gyfer targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
Ond, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, nid yw’r Bil yn ddigon cryf i lwyddo yn ei nodau, ac nid yw adroddiad y Pwyllgor wedi mynd i’r afael â’r gwendidau hynny.
Yn y llythyr agored at y Pwyllgor, esbonia Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
Ar hyn o bryd, mae 80% o’n plant a phobl ifanc yn gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus, gan nad ydyn nhw wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg. Ein pryder ni yw bydd y sefyllfa yma’n parhau hyd yn oed wedi i’r Bil gael ei basio gan ein Senedd, gan nad yw hanner digon cryf ar hyn o bryd o ran targedau, cynllunio a chyllido i esgor ar y newid radical sydd ei angen i roi’r Gymraeg i bob plentyn.
Mae aelodau’r Pwyllgor wedi eu gwahodd i rali fawr ‘Sefyll gyda’r 80%: Addysg Gymraeg i Bawb’, fydd yn digwydd tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd ar 15 Chwefror 2025. Bydd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith, y bardd a’r llenor Hammad Rind ac Is-Lywydd y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Catrin Edith, ymysg y siaradwyr.
Ychwanegodd Toni Schiavone:
Gan nad yw’n gwleidyddion yn fodlon sefyll gyda’r 80% o blant a phobl ifanc sy’n cael eu hamddifadu o’r Gymraeg, byddwn ni’n cynnal rali tu allan i’r Senedd ar 15 Chwefror er mwyn dangos bod pobl Cymru yn cyd-sefyll gyda nhw.
Os yw’r Gymraeg wir yn perthyn i bawb, byddwch chi’n defnyddio’ch grym fel aelodau etholedig ein Senedd genedlaethol yn y misoedd i ddod i ddylanwadu er mwyn gwireddu dyheadau pobl Cymru a hawliau ein plant i siarad ein hiaith genedlaethol, a chyflwyno gwelliannau fydd yn newid y ddeddfwriaeth unwaith mewn cenhedlaeth yma yn sylweddol er mwyn iddi fod yn un wirioneddol drawsnewidiol.
Mewn arolwg barn diweddar gan YouGov, a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith, roedd 59% o bobl a holwyd yn credu y dylai ysgolion anelu i addysgu pob disgybl i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, gyda 29% yn anghytuno a 12% yn ateb ‘ddim yn gwybod’. O hepgor y rhai atebodd ‘ddim yn gwybod’, roedd y ganran o blaid yn codi i 67%.
Featured image via the Canary