Wales is already preparing for International Workers Day on 4 May 2024, with a campaign around housing. Beth Winter MP and Mabon ap Gwynfor MS are set to join “Property Act – Nothing Less” demands during a rally.
‘Wales is not for sale’
Winter, Labour Member of Parliament for Cynon Valley, and Gwynfor, Plaid Cymru Member of the Senedd for Dwyfor Meirionnydd, will be among the speakers at a Nid yw Cymru ar Werth [Wales is not for Sale] rally in Blaenau Ffestiniog on 4 May.
The rally, which will take place on International Workers’ Day, will emphasise the need for a Property Act to ensure that housing is treated primarily as a community need, not a commercial asset, so that people can continue to live and work in their communities:
Ar 4 Mai bydd Beth Winter AS, Mabon ap Gwynfor AoS a'r Cyng Craig ab Iago ymuno â'r alwad dros "Ddeddf Eiddo – Dim Llai"
Mae ein cymunedau Cymraeg yn gwynebu argyfwng a mae'r cyfle olaf i weithredu'n agosau.
Ymunwch â'r alwad!https://t.co/V4xx413MhA pic.twitter.com/972CpuqXIl
— Cymdeithas yr Iaith (@Cymdeithas) February 5, 2024
The seven points of Cymdeithas yr Iaith’s Property Act are:
- Establish the right to adequate housing locally.
- Plan for local needs.
- Empower communities.
- Prioritize local people.
- Control the rental sector.
- Sustainable communities.
- Invest in communities.
Among the other speakers will be Councillor Craig ab Iago, who holds the housing portfolio on Gwynedd County Council, and local musician, Gai Toms. The rally will be led by Cymdeithas yr Iaith’s Chair, Joseff Gnagbo, and local town councillor, Dewi Prysor.
During the rally, the language campaigner Ffred Ffransis will introduce Cymdeithas’ “Property Act – Nothing Less” demand to the government, which will read:
We call on the Welsh Government to introduce a Property Act to create a housing market suitable to the needs of Wales, and to empower our local communities. Our communities can’t wait any longer – it’s time to act.
The speakers and local leaders will sign the statement at the end of the rally, which Cymdeithas yr Iaith will present to the government during the Urdd Eisteddfod later in May.
A crisis engulfing Welsh-speaking communities
Jeff Smith, Chair of Cymdeithas yr Iaith’s Sustainable Communities Group, explained:
We expect hundreds to attend to demonstrate the extent of the crisis facing Welsh-speaking communities and to declare that nothing less than the Property Act will do. Welsh communities are dwindling as their residents fail to compete in the open housing market and are forced to leave.
We are approaching the final months in which there is still a practical opportunity for the Government to introduce legislation and pass it before the end of the Senedd term. We look forward to seeing a wide range of people who believe in the future of Wales and in social justice join the call to demand a Property Act on International Workers’ Day weekend.
The organisers of the rally, the first of two this year, hope that it will influence the Government’s eagerly-anticipated White Paper on The Right to Adequate Housing and Fair Rents and the report of the Welsh Communities Commission, both of which will be published in the Summer. The second rally in Machynlleth on 14 September will respond to the announcements.
Welsh version
Mae Cymru eisoes yn paratoi ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar 4 Mai 2024, gydag ymgyrch yn ymwneud â thai. Mae Beth Winter AS a Mabon ap Gwynfor AS ar fin ymuno â gofynion “Deddf Eiddo – Dim Llai” yn ystod rali.
‘Nid yw Cymru ar werth’
Bydd Winter, Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, a Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ymysg siaradwyr rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai.
Bydd y rali, sy’n cymryd lle ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, yn pwysleisio’r angen am Ddeddf Eiddo i sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf fel angen cymunedol, nid asedau masnachol, fel bod pobl yn gallu parhau i fyw a gweithio yn eu cymunedau.
Dyma saith pwynt Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith:
- Sefydlu’r hawl i dai digonol yn lleol.
- Cynllunio ar gyfer anghenion lleol.
- Grymuso cymunedau.
- Rhoi blaenoriaeth i bobl leol.
- Rheoli’r sector rhentu.
- Cymunedau cynaliadwy.
- Buddsoddi mewn cymunedau.
Ymysg y siaradwyr eraill bydd y Cynghorydd Craig ab Iago, deiliad portffolio tai Cyngor Gwynedd, a’r cerddor lleol, Gai Toms. Bydd y rali’n cael ei chyflwyno a’i harwain gan Gadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith, Joseff Gnagbo, a’r cynghorydd tref lleol, Dewi Prysor.
Yn ystod y rali bydd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis yn cyflwyno galwad “Deddf Eiddo – Dim Llai” y Gymdeithas i’r Llywodraeth, sef:
Galwn ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i greu marchnad dai addas at anghenion Cymru, ac i rymuso’n cymunedau lleol. Ni all ein cymunedau aros rhagor – mae’n bryd gweithredu.
Bydd y siaradwyr ac arweinwyr lleol yn arwyddo’r datganiad ar ddiwedd y rali. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno’r alwad i’r Llywodraeth ar faes Eisteddfod yr Urdd fis Mai.
Argyfwng yn llyncu cymunedau Cymraeg eu hiaith
Esboniodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
Rydym yn disgwyl i gannoedd fynychu i ddangos maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg ac i ddatgan na wna unrhywbeth llai na Deddf Eiddo y tro. Mae cymunedau Cymraeg yn prinhau wrth i’w trigolion fethu a chystadlu yn y farchnad agored a chael eu gorfodi i adael.
Rydym yn agosáu at y misoedd olaf lle bydd cyfle ymarferol i’r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth a’i phasio cyn diwedd tymor y Seneddol. Edrychwn ymlaen yn ofnadwy i weld ystod eang o bobl sy’n credu yn nyfodol Cymru a chyfiawnder cymdeithasol yn ymuno â’r alwad i fynnu Deddf Eiddo ar benwythnos Gŵyl Ryngwladol y Gweithwyr.
Mae trefnwyr y rali, y cyntaf o ddwy eleni, yn gobeithio y bydd yn dylanwadu’n gadarnhaol ar Bapur Gwyn y Llywodraeth ar Yr Hawl i Dai Digonol a Rhenti Teg ac ar adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sydd yn cael eu cyhoeddi yn yr haf. Bydd yr ail rali ym Machynlleth ar Fedi 14 yn ymateb i’r cyhoeddiadau.
Featured image via Cymdeithas yr Iaith